![]() | ENGLISH |
|
|
![]() Yr ArddangosfaMae’r gwaith adnewyddu diweddar ar Ganolfan Owain Glyndŵr yn cynnwys arddangosfa newydd, gyffrous a rhyngweithiol ynglŷn â bywyd ac amseroedd Glyndŵr a’i rôl fel arweinydd y gwrthryfel yn erbyn rheolaeth Lloegr yng Nghymru yn y bymthegfed ganrif. Mae’r Arddangosfa sydd wedi’i hyrwyddo a’i hariannu gan Cadw a Llywodraeth Cymru’n cynnwys y nodweddion canlynol: Fideo sydd wedi’i gomisiynu’n arbennig o drafodion y senedd a gynhaliwyd ar y safle hwn gan Glyndŵr yn 1404. Gwahoddwyd dynion pwerus o Gymru a gŵyr pwysig nodedig o Ffrainc, Yr Alban a Sbaen i dystio i Owain yn cael ei goroni’n Dywysog Cymru. ![]() Rhan o\'r arddangosfa newydd Systemau cyfrifiadurol rhyngweithiol yn cynnig llinell amser sy’n olrhain hanes Glyndŵr – o’i fywyd cynnar a’i yrfa’n filwr ac yn gyfreithiwr, achosion yr anghydfod yng Nghymru, troi at wrthryfela a’r rhyfel a ddilynodd yn erbyn rheolaeth y Saeson. Murlun gan yr artist o’r Alban, Murray Urquhart (1880-1972) sy’n portreadu, yn arbennig, fuddugoliaeth hollbwysig Glyndŵr dros luoedd y brenin ym mrwydr Hyddgen yn 1401. Mae’r murlun yn unigryw, gan mai dyma yw’r unig furlun o’i faint i addurno adeilad cyhoeddus cyn 1914. Atgynhyrchiad o Lythyr Pennal, a anfonwyd gan Glyndŵr at Frenin Siarl VI o Ffrainc yn 1406. Yn y llythyr mae’n cyfeirio ato’i hun fel Tywysog Cymru. Atgynyrchiadau cywir o wisgoedd ac arteffactau canoloesol, gan gynnwys cleddyf mawr a baneri lliwgar o’r math y buasai dynion Glyndŵr wedi’u cario ar faes y gad. Rhwbio pres - cyfle i roi cynnig ar hen grefft hon! Lleoliad | Prisiau ac oriau agor |