![]() | ENGLISH |
|
|
Canolfan Owain Glyndŵr, MachynllethCyflwynwyd Canolfan Owain Glyndŵr i dref Machynlleth gan yr Arglwydd Davies o Landinam ym Mis Chwefror 1912. Mae'r adeilad yn darparu stafelloedd ar gyfer gweithgareddau cymunedol, a datblygwyd y Senedd-dy (lle cynhaliodd Owain Glyndŵr ei Senedd Genedlaethol yn ystod Haf 1404) yn Ganolfan Hanes ar Owain Glyndŵr a’i ymgyrchoedd a’i ddelfrydau. Mae'r Arddangosfa ar agor i'r cyhoedd ac yn gynnwys nifer o atyniadau: Arddangosfeydd a systemau cyfrifiadurol rhyngweithiol sy'n adrodd hanes Glyndŵr Murlun gan Murray Urquhart sy'n dangos golygfeydd o fywyd Glyndŵr Ffacsimili y Llythyr Pennal, a anfonwyd gan Glyndŵr at Frenin Ffrainc Cyfle i chi roi cynnig ar rwbio pres |
![]() |